Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Ariannin (Sbaeneg: Selección de fútbol de Argentina) yn cynrychioli yr Ariannin yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed yr Ariannin (AFA), corff llywodraethol y gamp yn yr Ariannin. Mae'r AFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed De America, CONMEBOL (Sbaeneg: Confederación Sudamericana de Fútbol, Portiwgaleg: Confederação Sul-Americana de Futebol).
Mae La Selección (y tîm cenedlaethol) neu'r Albicelestes (y glas golau a gwyn), wedi ennill Cwpan y Byd ar dair achlysur: ym 1978 pan cynhaliwyd y bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain, ym 1986 ym Mecsico, ac yto ym 2022 yn Catar