- Am y theatr genedlaethol Saesneg, gweler National Theatre Wales
Cwmni Theatr Genedlaethol Cymraeg ei hiaith ydy Theatr Cymru (gynt Theatr Genedlaethol Cymru). Sefydlwyd y cwmni yn 2003 ac fe'i leolir erbyn hyn, yn yr Egin, Caerfyrddin. Mae bwriad a gweledigaeth y cwmni wedi amrywio'n fawr dros y blynyddoedd, yn unol â gweledigaeth yr arweinydd artistig gyfredol.[angen ffynhonnell]
Disgrifia'r cwmni ei hun fel 'theatr deithiol genedlaethol'[1] a mae'r cwmni yn teithio cynyrchiadau i theatrau ar hyd a lled y wlad, yn ogystal â cynnal prosiectau am: ysgrifennu creadigol, sioeau cerdd, gwaith safle-benodol, a chlasuron y Theatr Gymraeg a rhynglwadol.
Ennillodd y cwmni Wobr UK Theatre 2024 am Ragoriaeth mewn Teithio.[2] Cafodd y cwmni ei henwebu fel Cynhyrchydd y Flwyddyn yn The Stage Awards 2024.[3]
Lansiwyd partneriaeth gyda S4C ar ddiwedd 2024 i rannu rai o ddramâu Theatr Cymru ar y sianel deledu llinol a phlatfformau ffrydio S4C Clic, Youtube a BBC iPlayer.[4]
Mae'r cwmni'n perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn flynyddol, fel arfer gyda dramâu newydd. Mae gwaith diweddar y cwmni wedi cael enwebiad UK Theatre Awards.[5]
Cyfarwyddwyr Artistig
Cefndir
O dan arweiniad a phenodiad Cefin Roberts yn 2003, fe gychwynwyd y Cwmni drwy sefydlu cwmni craidd o bedwar actor, ar ffurf cwmni Rep. Yr aelodau gwreiddiol oedd Owen Arwyn, Dave Taylor, Carys Eleri a Rhian Blythe. Cynhyrchiad cynta'r cwmni oedd ail-lwyfannu drama Meic Povey, Yn debyg iawn i ti a fi.
Cynyrchiadau
Ers 2003, mae'r cwmni wedi perfformio cynhyrchiadau yn cynnwys Yn debyg iawn i ti a fi, Siwan, Cysgod y Cryman, Esther, Hen Rebel, Porth y Byddar, Iesu!, Y Pair, Y Gofalwr a Gwlad yr Addewid.
2000au
- Diweddgan (2006) cyfarwyddwr Cefin Roberts
- Wrth Aros Beckett (2006) cyfarwyddwr Cefin Roberts
- Esther (2006) gan Saunders Lewis cyfarwyddwr Daniel Evans [9]
- Sundance (taith) (2006) gan Aled Jones Williams; cyfarwyddwr Cefin Roberts
- Dominos (2006) cyfarwyddydd Judith Roberts
- Tyner Yw’r Lleuad Heno (2009) gan Meic Povey; cyfarwyddydd Ffion Dafis
- Tŷ Bernarda Alba (2009) cyfarwyddydd Judith Roberts
- Bobi a Sami... A Dynion Eraill (2009) gan Wil Sam Jones; cyfarwyddwr Cefin Roberts
2010au
- Dŵr Mawr Dyfn (2014)
- Y Negesydd (2014)
- Pan Oedd Y Byd Yn Fach (2015)
- {{150}} (2015)
- Chwalfa (2016) ar y cyd â Pontio, Bangor
- Dawns Ysbrydion (2016)
- Mrs Reynolds a’r Cena Bach (2016)
- X (2019)
- Bachu (2019)
- Y Cylch Sialc (2019)
- Llygoden yr Eira (2019)
- Pryd Mae'r Haf? (2019)
2020au
- Gwlad yr Asyn (2021)
- Anfamol (2021)
- Llygoden yr Eira (2021)
- Faust + Greta (2021)
- Petula (2022)
- Gwlad yr Asyn (2022)
- Tylwyth (2022)
Cyfnod Steffan Donnelly
- Pijin (2023)
- Parti Priodas gan Gruffudd Owen (2023)
- Yr Hogyn Pren gan Eildyr Jones (2023)
- Rwan Nawr gan Llyr Titus, Hannah Daniel, Mali Ann Rees, Manon Steffan Ros a Kallum Weyman (2023)
- Rhyngom gan Sioned Erin Hughes (2023)
- Rhinoseros gan Eugène Ionesco, addasiad Manon Steffan Ros (2023) [10]
- Swyn gan Krystal S. Lowe (2023) [11]
- Kiki Cymraeg gan Nina Bowers, Leo Drayton a Lauren Morais (2023)
- Ie Ie Ie gan Elanor Bishop a Karin McCracken, addasiad Lily Beau (2024)
- Parti Priodas gan Gruffudd Owen (2024)
- Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow (2024) [12]
- Ha/Ha gan Caryl Burke, Mari Elen Jones, Geraint Lewis, Gruffydd Siôn Ywain (2024)
- Fy Enw i yw Rachel Corrie golygwyr Alan Rickman a Katharine Viner yn seiliedig ar ysgrifennu Rachel Corrie, addasiad Menna Elfyn (2024)
- Dawns y Ceirw gan Casi Wyn (2024)[13]
- Byth Bythoedd Amen gan Mared Jarman (2025)[14]
- Huw Fyw gan Tudur Owen (2025)
- Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow (2025)
- Wrecslam! (2025)
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol