Prif-feirdd Eifionydd
Mae Prif-feirdd Eifionydd, eu hanes yn syml, ynghyd a detholion cymwys i blant, a'u gwaith yn llyfr i ddisgyblion cynradd a chanolradd gan Edward David Rowlands. Cyhoeddwyd y llyfr gyntaf ym 1914 gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymraeg, Caernarfon.[1] AwdurRoedd Edward David Rowlands (1880 - 1969) yn ysgolfeistr ac awdur. Cafodd ei eni yn Llanuwchllyn a'i addysgu yn y Coleg Normal, Bangor. Bu'n brifathro ysgolion cynradd Chwilog a Chyffordd Llandudno.[2] Ymysg ei lyfrau eraill mae
TrosolwgMae'r llyfr yn cynnwys bywgraffiadau ac enghreifftiau o waith chwech o feirdd oedd â chysylltiad ag Eifionydd. Mae hefyd yn cynnwys cyflwyniad i'r gynghanedd a geirfa. PenodauY Beirdd sy'n cael eu trafod yw 1 Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) a'i gerddi: 2 Peter Jones (Pedr Fardd) a'i gerddi: 3 David Owen (Dewi Wyn o Eifion) a'i gerddi 4 John Thomas (Siôn Wyn o Eifion) a'i gerddi: 5 Ebenezer Thomas (Eben Fardd) a'i gerddi: 5 Morris Williams (Nicander) a'i gerddi:
7 EMYNAU Detholiad o emynau gan yr un beirdd
Cyflwyniad byr i'r cynganeddion symlaf, er mwyn i'r disgyblion cael clywed "clec" y gynghanedd. Y bwriad yw iddynt allu mwynhau miwsig barddoniaeth yn y mesurau caethion, nid dysgu'r rheolau'n fanwl er mwyn cyfansoddi. 9 Problemau mewn rhifyddiaeth ar gân Cyfres o bosau ar fedr ac odl gan Evan Pritchard (Ieuan Lleyn) a Pedr Fardd ee: O'R defaid tra breision, eu hanner oedd wynion, 9 Geirfa BeirniadaethFel rhan o adolygiad o'r llyfr Gŵyr Eifionydd gan William Rowland, Prifathro Ysgol Porthmadog, mae J T Jones yn ddweud yn y cylchgrawn Lleufer:[3]
Dyma'r lluniau
ArgaeleddMae'r llyfr wedi bod allan o brint ers degawdau. Gan fod E. D. Rowlands wedi marw ym 1969, bydd y rhan fwyaf o'i lyfrau yn dod allan o hawlfraint ar 1 Ionawr 2040 yng ngwledydd Prydain. Cyhoeddwyd Prif-feirdd Eifionydd dros 95 o flynyddoedd yn ôl, gan hynny mae allan o hawlfraint o dan gyfreithiau'r Unol Daleithiau, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. Felly mae modd ei ddarllen ar Wicidestun—Prif Feirdd Eifionydd Cyfeiriadau
|