Pibydd coesgoch mannog
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd coesgoch mannog (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion coesgoch mannog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Tringa erythropus; yr enw Saesneg arno yw Spotted Redshank. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. erythropus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r Pibydd coesgoch mannog yn nythu ar draws gogledd gwledydd Llychlyn a gogledd Asia. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu o gwmpas Affrica, de Asia ac o amgylch y Môr Canoldir, er fod nifer llai yn gaeafu ymhellach i'r gogledd. Mae'r aderyn yn 29–33 cm o hyd, gyda phlu du yn y tymor nythu, a llwyd yn y gaeaf. Mae'r coesau a'r pig yn goch. Gellir gwahaniaethu'r Pibydd coesgoch mannog oddi wrth y Pibydd coesgoch, sy'n aderyn tebyg iawn, oherwydd fod gan y Pibydd coesgoch mannog goesau hirach a phig hirach a meinach. Mae'n nythu ar lawr, ac yn tua pedwar wy. Yng Nghymru, ceir niferoedd amrywiol ond cymharol fychan pan maent yn mudo tua'r gogledd yn y gwanwyn a thua'r de yn yr hydref, ac mae niferoedd llai yn treulio'r gaeaf yma. Fe'i ceir o gwmpas aberoedd yn bennaf.
TeuluMae'r pibydd coesgoch mannog yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu: Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Gweler hefydCyfeiriadau
![]() ![]() |