Matilde Hidalgo
Gwleidydd o Ecwador oedd Matilde Hidalgo de Procel (29 Medi 1889 - 20 Chwefror 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, meddyg, bardd a gwleidydd. BywydGanwyd Matilde Hidalgo de Procel yn Loja, Ecwador. Hi oedd y fenyw gyntaf i fanteisio ar yr hawl i bleidleisio yn Ecwador (ac yn America Ladin) a hefyd y cyntaf i dderbyn Doethuriaeth mewn Meddygaeth. Ganed hi i deulu tlawd o chwech o blant, a phan fu farw ei thad, Juan Manuel Hidalgo, bu’n rhaid i’w mam, Carmen Navarro weithio’n eithriadol o galed fel gwniadwraig er mwyn eu cynnal. Priododd gyfreithiwr, Fernando Procel, ddiwedd yr 1920au a chawsant ddau o blant, Fernando a Gonzalo Procel. Cafodd ei pharlysu yn 1973 o ganlyniad i strôc a bu farw yn Guayaquil ar 20 Chwefror 1974. Wedi ei marwolaeth, sefydlwyd amgueddfa yn Loja yn seiliedig ar ei hatgofion a’r hyn a gyflawnodd yn ystod ei bywyd.[1] GyrfaAddysgwyd Matilde Hildago yn ysgol The Immaculate Conception of the Sisters of Charity. Ei dymuniad oedd parhau gyda’i haddysg ond ni chafodd hyn dderbyniad da o fewn ei chymuned, a gwnaeth llawer iddi deimlo’n esgymun. Derbyniodd gefnogaeth gan ei mam fodd bynnag a llwyddodd i sicrhau lle yn y Colegio Bernardo Valdivieso. Hi oedd y ferch gyntaf i raddio o ysgol uwchradd. Yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd ysgrifennu cerddi a pharhaodd i wneud hynny pan oedd yn y coleg, gan ysgrifennu ar bynciau megis, gwyddoniaeth, edmygedd o fyd Natur, teyrnged i bobl a dyddiadau nodedig, a hefyd ysgrifennodd am fyd merched. Gwrthodwyd ei chais i astudio ym Mhrifysgol Ganolog Ecwador yn wreiddiol oherwydd ei bod yn ferch ac felly teithiodd i Azay lle graddodd gydag anrhydedd mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Cuenca. Dychwelodd i Brifysgol Ganolog Ecwador yn 1921 ac ar sail ei gradd baglor, cafodd ei derbyn i astudio ar raglen doethuriaeth. Enillodd achos cyn etholiad arlywyddol Ecwador 1924 a ganiataodd iddi fwrw pleidlais yn yr etholiad hwnnw. Drwy hynny daeth Ecwador i fod y wlad gyntaf ar y cyfandir i ganiatáu hawliau pleidleisio i ferched. Daeth Matilde i fod y fenyw gyntaf i gael ei hethol ar gyngor Machala, ac Is-lywydd cyntaf Cyngor Machala. Yn 1941 hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol i swydd gweinyddydd cyhoeddus yn Loja. Parhaodd i weithio ym myd meddygaeth yn Guayaquil hyd 1949 pan dderbyniodd ysgoloriaeth i astudio Pediatreg, Niwroleg a Dieteteg yn yr Ariannin.[2][3] Cyfeiriadau
|