Margaret Lloyd (aelod o'r gynulleidfa Forafaidd)
Aelod o'r Gynulleidfa Forafaidd oedd Margaret Lloyd (27 Mai 1709 – 8 Medi 1762) ac un o deulu Llwydiaid Hendre-waelod a Llangystennin (ceir cofysgrifau yn Eglwys Llangystennin). Fe'i ganed yn Llangystennin (neu weithiau Llangwstennin), i'r de-ddwyrain o Llandudno a Llanrhos ym Mwrdeisdref Sirol Conwy.[1] Bu ei brawd Robert Lloyd (1707 - 1753) yn rheithor Aber. Wedi symud i Lundain, ymunodd â'r Wesleaid, ond yn 1740 daeth dan ddylanwad y Morafiaid, ac yn 1741 rhoes ei holl amser i'w hachos.[2] Mae'r Eglwys Forafaidd yn fudiad Protestanaidd. Yn 1743, fe'i hanfonwyd i Swydd Efrog i arolygu'r gwaith Morafaidd ymhlith y "chwiorydd dibriod". ![]() Fe'i priodwyd yn Swydd Efrog ar 27 Awst 1744, gyda Thomas Moore. Gwrthryfelodd y ddau yn erbyn yr unbennaeth Almaenaidd a lywodraethai'r genhadaeth Forafaidd yn Swydd Efrog, a diswyddwyd hwy. Yn ddiweddarach, fe gefnodd y ddau ar Eglwys y Brodyr, ond yn y diwedd dychwelon nhw ati.[3][4][5][2][6] Bu farw Margaret Lloyd yn Leeds, 8 Medi 1762, a'i chladdu yn "Erw'r Brodyr" yn Fulneck, Pudsey yn West Riding Swydd Efrog. Cyfeiriadau
|