Dafydd Elis-Thomas
Gwleidydd o Gymro oedd Dafydd Elis-Thomas, Arglwydd Elis-Thomas (18 Hydref 1946 – 7 Chwefror 2025).[1] Bu'n arweinydd Plaid Cymru rhwng 1984 a 1991 a chynrychiolodd etholaeth Meirionnydd/Meirionnydd Nant Conwy yn San Steffan rhwng 1974 ac 1992. Roedd yn aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig a daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1992. Yn 1999 fe'i hetholwyd yn Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd. Daeth yn Llefarydd cyntaf y Cynulliad o'r cychwyn yn 1999 hyd at 2011. Fe'i hail-etholwyd i'r Cynulliad yn Mai 2016 ond gadawodd Blaid Cymru ym mis Hydref gan aros fel aelod annibynnol hyd ei ymddeoliad cyn etholiad Mai 2021.[2] Roedd yn Llywydd Prifysgol Bangor ac yn Llywydd Anrhydeddus Searchlight Cymru yn ogystal. Bywyd cynnar ac addysgGanwyd Dafydd Elis-Thomas yng Nghaerfyrddin, yn fab i weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a chafodd ei fagu yn Llandysul a Llanrwst.[3][4] Mynychodd Ysgol Dyffryn Conwy ac yna bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1964 a 1970. Graddiodd yn 1967 gyda gradd yn y Gymraeg ac arhosodd i wneud gwaith ymchwil gan gael doethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Llenyddol.[5] Bu'n ddarlithiwr ym Mangor cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth. Yn 2000, fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor ac ef oedd Canghellor y Brifysgol rhwng 2000 a 2017.[6] GyrfaFe’i hetholwyd yn Aelod Seneddol yn Chwefror 1974, yr un adeg â Dafydd Wigley, pan etholwyd dau aelod seneddol Plaid Cymru, ac yn dilyn etholiad mis Hydref, dri aelod seneddol am y tro cyntaf. Ar y cychwyn, ef oedd yr aelod ieuengaf yn y Tŷ Cyffredin. Penderfynodd sefyll lawr o San Steffan yn 1992 '"er mwyn wynebu sialens newydd". Rhai misoedd yn ddiweddarach fe’i henwebwyd i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, fel yr Arglwydd Elis-Thomas. Yn wreiddiol roedd yn eistedd ar y croesfeinciau (crossbenches), ond fe gymerodd chwip Plaid Cymru yn 2012.[7] O 1992 i 1998 roedd yn gadeirydd Bwrdd yr Iaith, ac roedd ganddo ran bwysig yn creu Deddf yr Iaith Gymraeg (1993) a roddodd statws o gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg am y tro cyntaf, a hybu dwyieithrwydd yng Nghymru.[7] Yn Hydref 2016, pum mis ar ôl ei ail-ethol fel aelod o'r Cynulliad, penderfynodd adael Plaid Cymru oherwydd yn ei eiriau ef "nad oes unrhyw fwriad gan Plaid i chwarae rhan fwy cadarnhaol yn y Cynulliad". Dywedodd cangen Dwyfor Meirionnydd o Blaid Cymru y dylai alw is-etholiad ond dywedodd Elis-Thomas nad oedd ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny. Eisteddodd fel aelod annibynnol ers hynny. Ar 3 Tachwedd 2017 ymunodd â chabinet Llywodraeth Cymru gan gymryd swydd oedd wedi bod yn wag am flwyddyn sef y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Cyhoeddodd ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru, 12 Ebrill 2020 nad oedd am sefyll yn Etholiad nesaf Senedd yn 2021. Ar ôl ystyriaeth hir dywedodd nad oedd yn cystadlu yn Dwyfor Meirionnydd yn 2021, ond dywedodd fod yna lawer o ffyrdd eraill o wasanaethu cymdeithas. Dywedodd ar y rhaglen "Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd." "Gan 'mod i yn cyrraedd, neu wedi cyrraedd, y cyfnod yna o gynrychioli Meirionydd beth bynnag - onid yn gwbl gyson ar hyd y cyfnod yna - am fwy na deugain mlynedd, fydda fo ddim yn gwneud llawer o synnwyr i sefyll etholiad gan wybod y byddwn i'n 78 erbyn diwedd y Cynulliad nesa."[8][9] Bywyd personolYm 1970 priododd Elen M. Williams a ganwyd tri mab iddynt. Wedi ysgariad, bu'n bartner i Marjorie Thompson, cadeirydd CND. Ym 1993 priododd Mair Parry Jones a roeddent yn byw yn Llandaf, Caerdydd pan oedd yn gweithio yng Nghaerdydd ac ym Betws-y-Coed fel arall. Yng nghofnodion swyddogol San Steffan cyfeirir ato fel "Dafydd Elis Elis-Thomas".[10] Marwolaeth a theyrngedauBu farw yn ei gartref wedi salwch byr, yn 78 mlwydd oed.[1] Cafwyd llu o deyrngedau iddo. Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan fod "Cymru wedi colli un o'i gweision pennaf, ac mae llawer ohonom wedi colli cyfaill arbennig iawn. Roedd Dafydd yn gawr yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn danbaid dros hyrwyddo ein cenedl, ein hiaith, a'n diwylliant. Ar lefel bersonol, bu Dafydd yn ysbrydoliaeth i mi ers fy nyddiau cynnar mewn gwleidyddiaeth." Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod "colli Dafydd yn ergyd drom i wleidyddiaeth Cymru a bywyd sifig ein cenedl. Yn ddi-os roedd Dafydd yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ac arwyddocaol ei genhedlaeth, a fel Llywydd y Cynulliad cyntaf gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i osod seiliau cadarn i ddatganoli." Dywedodd Llywydd cyfredol y Senedd, Elin Jones mai Dafydd Elis-Thomas oedd y "person iawn ar yr amser iawn" i fod yn Llywydd cyntaf. "Mae wedi bod yn holl bresennol mewn gymaint o ddigwyddiadau mawr ein hanes ni," meddai. Dywedodd Dafydd Wigley "Roedd cyfraniad Dafydd i'w wlad yn enfawr, gan dorri drwy sawl rhwystr oedd wedi atal y mudiad cenedlaethol am ddegawdau. Ac ef, mwy na'r un unigolyn arall, a sicrhaodd fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei seilio ar egwyddorion cadarn." Dywedodd cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan mewn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol: "Bydd Cymru'n dlotach a mwy di-liw wedi colli Dafydd, ac anfonaf gofion cynnes at Mair a'r teulu oll" Dywedodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones fod Cymru ar ei cholled o beidio fod wedi gweld Elis-Thomas yn arwain y wlad. Ychwanegodd Mr Jones fod arweiniad Elis-Thomas yn ystod ei gyfnod gyda Bwrdd yr Iaith "yn glir ac yn gadarn". "Roedd e’n gadeirydd da iawn achos oedd gyda fe feddwl strategol clir, ac agenda yn ei ben ac eto roedd e’n gallu swyno pobl yr un pryd," meddai. Roedd yr awdur a newyddiadurwr, y Dr Aled Eirug wedi bod yn paratoi cofiant i Dafydd Elis-Thomas ers cryn amser. Dywedodd fod ei gyfraniad wedi bod yn "gwbl allweddol" i ddatblygiad Cymru fel cenedl.[11] AngladdCynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf am 1.30 o'r gloch brynhawn Gwener, 14 Mawrth. Roedd cannoedd yn bresennol - yn eu plith y Prif Weinidog a chyn-brif weinidogion y Senedd, aelodau presennol a blaenorol y cabinet, gweision sifil a degau o wleidyddion eraill o bob plaid. Ei ffrind agos Aled Eirug a roddodd y deyrnged iddo. Bu'r canwr gwadd Gwyn Hughes Jones yn perfformio nifer o hoff ganeuon Dafydd Elis-Thomas. Cafodd y gwynfydau eu darllen gan y Deon, y Tra Pharchedig Dr Jason Bray a'r fendith ei thraddodi gan Esgob Llandaf Mary Stallard. Yn dilyn y gwasanaeth fe wnaeth yr hers basio adeilad Senedd Cymru ym Mae Caerdydd.[12] ProffesiynolDyma rai o'i swyddi proffesiynol:
LlenorRoedd yn awdur ar nifer o lyfrau gan gynnwys Cyfansoddi Ewrop - Helaethu Ffiniau.
Cyfeiriadau
|