Cwm-yr-Eglwys
Pentref bychan yng nghymuned Dinas, Sir Benfro, Cymru, yw Cwm-yr-Eglwys[1] neu Cwmyreglwys.[2] Saif ar gilfach môr ar ochr ogleddol penrhyn Ynys y Ddinas, rhwng Abergwaun a phentref Trefdraeth. Mae'n gorwedd ym Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg heibio i'r pentref. Mae gan y pentref harbwr yng nghysgod y creigiau ar lan Bae Trefdraeth, sy'n rhan o Fae Ceredigion. Mae'r traeth bychan tywodlydd yn boblogaidd gan ymwelwyr. ![]() Eglwys Sant BrynachPrif atyniad y pentref yw adfeilion Eglwys Sant Brynach. Credir i'r eglwys gael ei sefydlu tua'r 6g gan Sant Brynach, aelod o deulu brenhinol Brycheiniog. Yn ôl traddodiad roedd y sant yn arfer mynd i ben Carn Ingli ger llaw i siarad â'r angylion. Mae'n bosibl mai clas oedd yno i ddechrau. Codwyd eglwys newydd ar y safle yn y 12g, ar batrwm Celtaidd. Yn anffodus dim ond rhan o'r clochdy a'r mur orllewinol a oroesoedd storm enbyd a drawodd ar 25 Hydref 1859; yr un storm a suddodd y Royal Charter, ger Moelfre, Ynys Môn, a 113 llong arall ar hyd arfordir Cymru y noson honno. ![]() Ffynhonnell
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas |