Cwm-y-glo
Pentref yng Ngwynedd yw Cwm-y-glo[1] ( ![]() GeirdarddiadYn ôl yr hanesydd Glenda Carr, cyfeiria'r hen enw at 'golosg' yn hytrach na'r hyn a elwir heddiw'n 'lo', gan nad yw hon yn ardal lofaol. Golosg (sercol, siarcol, côc neu tendar) yw'r defnydd du hwnnw sy’n weddill wedi i bren fudlosgi. Mae'r cyfeiriad cyntaf am dŷ o'r enw Cwm-y-glo, yn hytrach na phentref, ac efallai mai yma y llosgid y pren i greu'r golosg. Ceir lle arall cyfagos, gyda'r gair glo yn rhan o'i enw, sef 'Erw Pwll y Glo', sydd ar y ffin rhwng plwyfi Llanrug a Llanddeiniolen, yn eitha agos at gapel Nasareth. Cofnodir yr enw yma yn gyntaf yn 1597 a daw'r cyfeiriad cynharaf at Cwm-y-glo o’r flwyddyn 1770. Yn ôl Carr, roedd golosg yn hynod o bwysig yn efail y gof, gan ei fod yn creu tân arbennig o eirias.[2] HanesDatblygodd y pentref gyda thŵf Chwarel Dinorwig, er fod rhai adeiladau yn hŷn na'r cyfnod yma. Agorwyd nifer o siopau a busnesau bychain yma yn y blynyddoedd diwethaf. Lladdwyd pum person mewn damwain yno yn 1869, pan ffrwydrodd dwy wagenaid o olew Nitro-glycerine oedd ar eu ffordd i chwareli llechi Llanberis. YsgolCyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas |