Cwm-iou
Pentref bychan gwledig yng nghymuned Crucornau, Sir Fynwy, Cymru, yw Cwm-iou[1] (Saesneg: Cwmyoy).[2] Fe'i lleolir filltir i'r gorllewin o'r Pandy yng ngogledd-orllewin eithaf y sir ar ffordd fynydd sy'n arwain i fyny cwm hir Dyffryn Ewias i ardal Capel-y-ffin a thros Fwlch yr Efengyl i'r Gelli Gandryll. Gorwedd y pentref ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar lan Afon Honddu. Rhai milltiroedd yn uwch i fyny'r cwm ceir Llanddewi Nant Hodni lle ceir adfeilion abaty canoloesol. Mae'r pentref yn adnabyddus am yr eglwys blwyf, Eglwys Sant Martin, sy'n dyddio o'r 12g a 13g. Mae'n sefyll ar lethr serth ar ochr ddwyreiniol y dyffryn sy'n agored i dirlithriadau. Mae'r sylfeini ansefydlog wedi arwain at adeilad sydd prin yn meddu ar ongl sgwâr neu wal unionsyth. Mae wedi cael ei galw yr "eglwys fwyaf cam ym Mhrydain Fawr".[3] Roedd y Gymraeg yn parhau ar wefusau trigolion yr ardal mor ddiweddar â c.1890.[4] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |